Bromcom Logo

Bromcom Cymru

MIS & Finance

Alternative desc

Bromcom Cymru

MIS & Finance

Alternative desc

Mewn partneriaeth ag ysgolion yng Nghymru

Mewn partneriaeth ag ysgolion yng Nghymru

Rydym nawr yn cyflwyno ein System Gwybodaeth Reoli (MIS) a’n datrysiad Cyllid sydd gyda’r gorau ar y farchnad i ysgolion ledled Cymru.

Mae gan Bromcom bartneriaeth hirsefydlog â Chymru – mae ein dyfeisiau e-gofrestru wedi bod yn cael eu defnyddio ym mhob cwr o’r wlad ers y 1990au! Ers lansio datrysiad ein System Gwybodaeth Reoli (MIS) yn y Cwmwl yn 2011, rydym wedi helpu miloedd o ysgolion ar hyd a lled y DU i gymryd rheolaeth dros eu data, ac rydym yn gweithio’n galed i ddod â’n datrysiad i’r gymuned addysg yng Nghymru. Credwn y dylai technoleg addysg fod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol, gan alluogi addysgwyr a dysgwyr i ffynnu mewn byd sy’n esblygu drwy’r amser. Er mwyn sicrhau bod ein meddalwedd yn cyd-fynd yn berffaith â gofynion y gymuned addysg yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i’r camau canlynol:

Alternative desc

Cydweithio ag Addysgwyr Cymraeg

Rydym yn ymgysylltu’n frwd ag addysgwyr a sefydliadau Cymru i ddeall eu heriau a’u gofynion unigryw. Trwy bartneriaethau cydweithredol, ein nod yw cyd-greu atebion wedi’u teilwra sy’n mynd i’r afael ag anghenion addysgol penodol Cymru.

System Gwybodaeth Reoli ddwyieithog

Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod meddalwedd Bromcom ar gael yn Gymraeg fel opsiwn i holl awdurdodau lleol Cymru, ysgolion, teuluoedd ac unrhyw randdeiliaid eraill. Rydym wedi cael cefnogaeth sefydliadau Cymreig i sicrhau defnydd cywir o’r Gymraeg.

Adroddiadau statudol Cymraeg

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod meddalwedd Bromcom yn galluogi ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru i gydymffurfio’n llawn ag adroddiadau data Cymraeg. Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o arbenigwyr ac rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod y nodweddion hyn ar gael o Haf 2024 ymlaen.

Cynnwys a Chymorth Lleol

Rydym yn ymroddedig i ddarparu cynnwys a chefnogaeth leol yn Gymraeg - gan gynnwys grwpiau defnyddwyr a dogfennaeth - gan sicrhau bod ein datrysiadau yn hygyrch ac yn berthnasol i addysgwyr a dysgwyr ledled Cymru.

Gwelliant Parhaus

Mae ein hymrwymiad i ragoriaeth yn golygu y byddwn yn mireinio a gwella ein meddalwedd yn barhaus ar sail adborth gan ein cwsmeriaid Cymreig. Ac mae ein map ffordd datblygu rhyngweithiol yn golygu y gellir mewnbynnu eich syniadau a'ch mewnwelediadau yn uniongyrchol.

Hyfforddiant ac Adnoddau

Byddwn yn buddsoddi mewn hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer addysgwyr Cymraeg, gan sicrhau y gallant harneisio potensial llawn ein technoleg i gyfoethogi’r profiad addysgu a dysgu.

Ymgysylltiad Cymunedol

Rydym yn gyffrous i ddod yn rhan annatod o'r gymuned addysg Gymraeg. Edrychwch ymlaen at ein cyfranogiad mewn digwyddiadau addysgol lleol, cynadleddau, a mentrau sy'n cefnogi twf addysg Gymraeg.

Dim mwy o ychwanegiadau drud

Rydym yn falch o fod wedi datblygu'r MIS cwmwl mwyaf cynhwysfawr ar y farchnad, ynghyd ag ateb Cyllid cwbl integredig. Tra bod darparwyr eraill yn disgwyl i chi ddefnyddio dull Frankenstein a phrynu ychwanegiadau costus, mae siop un stop Bromcom yn rhoi'r holl ymarferoldeb sydd ei angen arnoch chi - ac yn arbed arian i chi. Mae rhai o'r modiwlau allweddol a ddarparwn nad ydynt mewn MIS eraill yn cael eu harchwilio isod:

Module Bromcom Arbor Scholar Pack Iris Juniper RM SIMS
Core MIS
Timetable
Exams
ePayments
Trips and Clubs
Meal Management
Teacher App
MAT Access/Reporting
Parent Comms
Assessment
Finance
Safeguarding
Seating Plans
HR
Power BI
365/Google Integration
Student Portal
Shared 6th Form
Shared Campus

Arbedion yn seiliedig ar Gyfanswm cost perchnogaeth

Blaenau Gwent £18,593 Merthyr Tudful £233,675
Pen-y-bont ar Ogwr £538,985 Sir Fynwy £305,754
Caerffili £817,557 Castell-nedd Port Talbot £474,647
Caerdydd £1,091,410 Casnewydd £474,647
Sir Gaerfyrddin £1,029,878 Sir Benfro £575,400
Conwy £556,449 Rhondda Cynon Taf £1,065,916
Sir Ddinbych £501,004 Abertawe £866,101
Sir y Fflint £720,148 Torfaen £274,215
Gwynedd £931,017 Bro Morgannwg £484,404
Ynys Môn £423,670 Wrecsam £634,116

Arbedion ALl yn seiliedig ar brisiau SIMS 2022

Alternative desc

Mae'n bryd newid

Rydym yn deall y pwysau y mae ysgolion ac Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu o gael eu cloi i mewn i gontractau hirdymor gyda'u darparwr MIS presennol - ac os ydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch cornelu gan derfynau amser sydd ar ddod a diffyg dewisiadau eraill, rydym yma i helpu. Mae ein tîm profiadol wedi llwyddo i drosglwyddo cannoedd o ysgolion yn llu i Bromcom. Yng Ngorllewin Sussex fe wnaethom symud 200+ o ysgolion o SIMS a FMS i'n datrysiad MIS & Finance o fewn un tymor. Tra yn Coventry, fe wnaethom drosglwyddo eu hysgolion i'n datrysiad MIS a Chyllid o fewn tair wythnos.

Clywch gan Ollie Burnett o Coventry wrth iddynt symud i Bromcom

Gorllewin Sussex flwyddyn yn ddiweddarach - gyda J. Richardson a M. King

Gwesteio gyda Bromcom

Nid yw symud i Bromcom yn golygu bod ALlau yn colli cyfleoedd gwesteio. I'r gwrthwyneb, mae Bromcom yn caniatáu i drydydd partïon westeio ein cynhyrchion MIS a Chyllid, gan roi cyfle i ALlau gynhyrchu incwm neu drosglwyddo gostyngiadau i ysgolion. Ar gyfer ALlau sydd wedi buddsoddi mewn seilwaith ac sy’n pryderu am gadw’r hawl i westeio SIMS ar ran ysgolion, mae Bromcom yn darparu dewis amgen hyblyg a chost-effeithiol. Cysylltwch â ni os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei drafod yn fwy manwl.

Dros Gymru, gyda Chymru

Datrysiad wedi'i deilwra

Gofynion statudol Cymraeg

* gan gynnwys CBDS, cyfrifon Hwb a Deddf yr Iaith Gymraeg

Cadw cefnogaeth ALl lleol

Cofnodiadau MIS a Chyllid

Cofnodiadau MIS a Chyllid

Yn ddiweddar cymerodd Bromcom ran mewn gweminar hanner diwrnod a drefnwyd gan Finnemore Consulting, lle buom yn arddangos ein datrysiadau MIS a Chyllid i ysgolion, ALlau, a phartneriaid cymorth o bob rhan o’r DU, gan gynnwys nifer o fynychwyr o Gymru. Rydyn ni wedi rhannu'r recordiadau i'r gwahanol bynciau dan sylw - darllenwch i ddarganfod mwy am ein harlwy.

Rhan 1 - Pam mae Ysgolion yn Dewis Bromcom

Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu:

  • Gweithredu a Mudo i Bromcom.
  • Y cynhyrchion a'r gwasanaethau a gynigiwn.
  • Sut rydym yn gweithio gyda deallusrwydd artiffisial ac yn ei harneisio.
  • Cymuned Bromcom a thystebau.
  • Cefnogaeth, Hyfforddiant ac Ymuno.
  • Ymrwymiad Cymreig.

Rhan 2 - Demo cynnyrch ar gyfer tîm y Swyddfa

Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu:

  • Mewngofnidi i Bromcom
    (â llaw neu drwy SSO)
  • Ymgysylltu a gohebu â rhieni
  • Defnyddio MyChildAtSchool
  • Adrodd Cyflym a Dangosfyrddau Data byw
  • Cynnal Cyfrifiad Ysgol a Dogfennaeth
  • Asesiad CA1 a CA2

Rhan 3 - Addysgu a Dysgu

Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu:

  • Yn y Dosbarth
  • Cefnogi Cynnydd
  • Rheolaeth Dosbarth

Rhan 4 - SLT a MATau

Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu:

  • Targedu anghenion yr Ymddiriedolaeth a chefnogi cynllun gwella'r Ysgol
  • Arweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth trwy ddata
  • Dangosfyrddau data byw a dadansoddiadau
  • Diogelu ymarferol wed’i ymgorffori
  • Mynediad canolog a throsolwg trwy Vision
  • Ein hymrwymiad i ddatblygu anghenion ein defnyddwyr Bromcom

Rhan 5 - Cyllid

Mae'r sesiwn hon yn cwmpasu:

  • Beth sy'n gwneud Bromcom Finance yn wahanol i atebion eraill
  • Llywio a defnyddio Bromcom Finance
  • Ymarferoldeb Cyllid MAT
  • Adroddiadau Ariannol a Chydymffurfiaeth diwedd Blwyddyn/Ffurflenni CFR

Dysgu wedi'i yrru gan y Gymuned

Dysgu wedi'i yrru gan y Gymuned

Mae Bromcom yn galluogi cymuned gyfan yr ysgol i gefnogi pob cam o daith addysgol myfyriwr.

Popeth o dan yr un to

Mae ein datrysiad MIS a Chyllid yn cynnwys popeth o Asesu i ymgysylltu â Rhieni, Dadansoddeg a rheoli Clybiau.

100% Seiliedig ar y Cwmwl

Peidiwch â bod ynghlwm wrth ddesg, mae ein system rheoli ysgol ar gael o unrhyw ddyfais sydd â phorwr gwe.

Yn cefnogi gwneud penderfyniadau

Nodwch broblemau cyn iddynt fynd allan o reolaeth gyda'n dadansoddeg uwch a'n rhybuddion awtomataidd.

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Over the course of our discussions with schools in Wales, we’ve collected a wide range of questions that you’ve been asking and placed them all into this document for handy reference. If you need any further information, please don’t hesitate to get in touch with us via enquiries@bromcom.com

Archebu, Prisio a Chymorth

C

Faint mae Bromcom MIS/Finance yn ei gostio?

A

Gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'ch awdurdod lleol neu ddarparwr cymorth, bydd angen i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol i gael dyfynbris.

Gallwch hefyd gysylltu â ni'n uniongyrchol drwy'r manylion isod.

Ein manylion cyswllt

Ebost: enquiries@bromcom.com

Ffôn: 020 8290 7171

C

Beth yw eich model busnes ar gyfer eich perthynas â'r ALl?

A

Fel cwmni nid ydym yn rhoi cymhellion ariannol i ALlau argymell ein cynnyrch, er ein bod yn caniatáu i ALlau westeio ar ran ysgolion. Yn gyffredinol, canfyddwn fod ALlau eisiau bod yn niwtral ynghylch MIS a thrafod yr opsiynau ar gyfer pob ysgol fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus. Mae rhai awdurdodau lleol yn dewis mynd drwy broses dendro a dyfarnu'r contract i ddarparwr penodol.

C

Os bydd Bromcom yn darparu ar gyfer ysgolion Cymraeg, a fydd yn effeithio ar eich adnoddau cymorth ar gyfer ysgolion sydd ar hyn o bryd yn edrych i newid darparwr?

A

Mae Bromcom wedi llogi adnoddau ac wedi buddsoddi yn y tîm i gyflawni'r datblygiadau hyn. Fel cwmni teuluol heb unrhyw randdeiliaid ariannol, rydym yn buddsoddi 100% o'n helw yn ôl yn y cwmni, a'n tîm datblygu a gwasanaethau cwsmeriaid yw'r adrannau mwyaf yn ein cwmni.

Ystafell Ddosbarth a Chwricwlwm

C

A all y plant ddewis y gofrestr presenoldeb ar fwrdd gwyn rhyngweithiol?

A

Mae Bromcom yn gweithio'n dda gyda sgrîn gyffwrdd a gall plant gofrestru eu presenoldeb eu hunain. Er diogelwch, mae data sensitif yn cael ei guddio yn y modd bwrdd gwyn a rhaid i'r athro fewnbynnu ei gyfrinair i ddychwelyd i'r olwg arferol.

C

Allwch chi fewnforio taflenni marciau asesu a thempledi presennol o systemau MIS presennol?

A

Gallwch, gallwch fewnforio'r data ar ôl i chi greu'r taflenni marciau yn Bromcom, mae'r broses yn syml iawn ac ar gyfer ysgol ganolig dim ond ychydig oriau y bydd yn ei gymryd i fapio ar draws yr holl wybodaeth asesu.

Gweinyddiaeth

C

A yw'r system yn caniatáu ar gyfer trosglwyddo disgyblion i'r flwyddyn academaidd nesaf?

A

Ydy, mae Bromcom yn darparu dewin i'ch helpu i gwblhau'r broses diwedd blwyddyn yn ogystal â llawer o ddogfennaeth.

C

A yw'r holl nodweddion hyn (presenoldeb, asesu, ymddygiad, e-byst, ac ati) yn cael eu cynnwys yn safonol?

A

Mae lefelau gwahanol o Bromcom felly gallwch ddewis y fersiwn priodol ar gyfer eich ysgol. Fodd bynnag, yr un sy'n cael ei argymell fel y gwerth gorau yw'r siop un stop a fydd yn gwneud hyn i gyd a mwy.

C

A yw Bromcom yn cefnogi'r adroddiadau statudol sy'n ofynnol gan lywodraeth Cymru? 

A

Ydy, fel rhan o’n hymrwymiad i Gymru, mae system Bromcom yn cefnogi’r holl ffurflenni statudol sy’n ofynnol gan lywodraeth Cymru.

C

A yw Bromcom yn cynnwys modiwl Diogelu?

A

Ydi, mae gan Bromcom gyfres ddiogelu lawn gan gynnwys dangosfwrdd i helpu swyddogion i gadw ar ben y llwyth achosion. Gall staff gofnodi pryderon yn hawdd o fewn y MIS er mwyn arbed newid rhwng systemau a chofio mewngofnodi lluosog.

C

A ellir defnyddio Bromcom i gofnodi absenoldeb staff?

A

Gellir, mae gan Bromcom fodiwl absenoldeb a llanw sydd wedi'i adeiladu'n llawn sy'n eich galluogi nid yn unig i gofnodi absenoldeb ond hefyd i ddyrannu staff cyflenwi a darparu adroddiadau cyflenwi cynhwysfawr.

Ymgysylltiad Rhieni

C

A all rhieni wneud taliadau am brydau bwyd?

A

Gall rhieni dalu am brydau bwyd neu ychwanegu at eu cyfrif trwy'r porth rhieni a'r ap. Mae siop ysgol gyflawn wedi'i chynnwys ynghyd â rheoli clybiau a theithiau. Gallwch hefyd ganiatáu taliadau PayPoint neu ganiatáu i rieni archebu cynhyrchion y telir amdanynt yn bersonol wedyn.

C

Allwch chi drefnu nosweithiau rhieni gyda'r system?

A

Gallwch, gallwch drefnu noson rieni a gall greu cyfarfodydd Teams neu Google yn awtomatig os oes angen. Gall rhieni drefnu apwyntiadau trwy'r porth rhieni neu'r ap.

C

A all athrawon ysgrifennu adroddiadau diwedd tymor i rieni gan ddefnyddio'r system?

A

Gallant, a bydd yn creu ac yn cyhoeddi adroddiadau yn uniongyrchol ar yr ap rhiant. Nid yw llawer o'n hysgolion bellach yn argraffu unrhyw adroddiadau papur, gan arbed miloedd mewn costau argraffu.

C

A allwn gasglu gwybodaeth ar gyfer rhieni cyn-derbyn ar-lein?

A

Er mwyn i ddata cyn-derbyn gael ei gasglu, gellir rhoi mewngofnod i'r rhieni i'r porth neu'r ap. Mae hyn yn caniatáu iddynt lenwi eu holl ddata ar-lein a gwneud y broses ymgeisio yn gwbl ddi-bapur.

Mudo ac Integreiddio

C

Pa wybodaeth sy'n cael ei fudo o SIMS?

A

Mae Bromcom yn mudo swm enfawr o ddata gan gynnwys yr holl ddata staff a disgyblion, presenoldeb, ymddygiad, arian cinio ac ar gyfer ysgolion uwchradd - arholiadau ac amserlen. Rydym yn mudo gwerth pum mlynedd o ddata fel arfer gyda blynyddoedd ychwanegol ar gael ar gais. Mae dogfennau cwmpas ar gael ar gyfer pob mudo, felly gallwch deimlo'n hyderus ynghylch yr hyn a gaiff ei gynnwys.

C

Pa systemau trydydd parti y mae Bromcom yn integreiddio â nhw?

A

Rydym yn integreiddio â channoedd o systemau trydydd parti naill ai trwy ein Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs) rhad ac am ddim ein hunain neu trwy Wonde a Groupcall - Gwiriwch y rhestr lawn o bartneriaid yma: https://bromcom.com/partners

C

A fyddai'r system hon hefyd yn disodli ParentPay neu'n integreiddio ag ef?

A

Gall Bromcom naill ai integreiddio â ParentPay neu ei ddisodli. Rydym yn argymell dod â’r cyfan i mewn i Bromcom fel y gall rhieni dalu am brydau a chlybiau wrth iddynt ddarllen adroddiadau tymhorol a gweld cyflawniadau diweddaraf eu plentyn..

C

A yw'r dull Siop Un Stop yn golygu nad oes angen unrhyw systemau trydydd parti arnaf?

A

Ein nod yw dod â phopeth o dan yr un to i leddfu baich ariannol a gweinyddol eich holl dasgau hanfodol yn yr ysgol. Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli efallai na fyddwch am newid ar y diwrnod cyntaf gan ei fod yn llawer i'w wneud ar unwaith. Mae llawer o ysgolion yn anrhydeddu eu contractau presennol ac yn defnyddio mwy o ymarferoldeb Bromcom wedi'i adeiladu dros amser. Dyma lle gall yr arbedion cost ddod i mewn a gallwch chi wneud y mwyaf o werth eich MIS. Beth bynnag am hyn, mae yna opsiwn bob amser o gadw'ch hoff systemau trydydd parti os yw'n well gennych chi ac mae yna feysydd nad ydym wedi mentro iddynt eto, megis systemau mynediad ymwelwyr, arlwyo heb arian ac ati.

Penodol i Uwchradd

C

A yw'r rhaglen hon yn cysylltu â Nova ar gyfer amserlennu?

A

Ydy, mae'n gwneud hynny ond mae Bromcom yn dod â'i system Amserlen ei hun sy'n caniatáu cyfathrebu dwy ffordd felly mae unrhyw newidiadau a wneir yn y MIS hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y system amserlennu. Yn ogystal, gyda Bromcom rydych yn dibynnu llawer llai ar y system amserlennu yn ystod y flwyddyn gan y gellir ei rheoli’n briodol o fewn y MIS.

Q

A oes modiwl Arholiadau?

A

Oes, mae gennym fodiwl JCQ sy'n cydymffurfio'n llawn wedi'i ymgorffori yn Bromcom. Gall reoli eich data sylfaenol, cofnodion, canlyniadau, a dadansoddi, gan leihau'r angen am gynhyrchion trydydd parti fel 4Matrix a Sisra.

C

A oes modiwlau Cyflenwi ac Opsiynau ar gael?

A

Ydy, mae cyflenwi ac opsiynau wedi'u hymgorffori yn y MIS. Cysylltwch â ni os hoffech ddemo pellach.

C

A ellir addasu amserlenni myfyrwyr unigol yn ôl yr angen?

A

Gellir, gellir gwneud hyn yn uniongyrchol o fewn y MIS, ac anfonir unrhyw newidiadau yn ôl i system amserlen Bromcom gan roi proses 2 ffordd i chi.

Cyllid

C

A allwn brynu Bromcom Finance heb y MIS?

A

Ydy, mae hyn yn bosibl, ond bydd angen i ni drafod yn unigol gan mai’r system Gyllid yn unig ydyw ac nid yw’n cynnwys pethau fel MCAS, y porth rhiant/ap taliadau.

C

A fydd codau cyfriflyfr a chanolfannau cost presennol yn cael eu symud o'n system FMS bresennol?

A

Byddwn yn gweithio'n agos gyda'ch tîm Cyllid i sefydlu eich Siart Cyfrifon (codau cyfriflyfr a chanolfannau cost). Fel rhan o hyn, byddwch hefyd yn cael y cyfle i dacluso a chael gwared ar unrhyw rai nad ydych eu hangen mwyach.

C

A yw cyfrifon yn daladwy a chyfrifon derbyniadwy wedi'u cynnwys?

A

Ydy, mae hyn i gyd yn rhan o gynnyrch sylfaenol Bromcom Finance.

C

Pa mor aml y mae taliadau'n cael eu trosglwyddo oddi wrth rieni i'n cyfrif banc?

A

Mae'r trosglwyddiadau'n digwydd unwaith yr wythnos.

C

A allwch chi wneud cynllunio 5 mlynedd ar eich system, y tu hwnt i ofyniad rhagweld 3 blynedd ALlau? 

A

Mae rhagolygon Cyllideb 5 Mlynedd ar gael. Mae'r dudalen rhagolygon yn caniatáu i chi ragweld hyd at uchafswm o 5 mlynedd, felly gallwch ddewis defnyddio cymaint o flynyddoedd ag y dymunwch. Mae gennym hefyd swyddogaeth ffactor rhagweld i wneud y broses honno ychydig yn haws. 

Dilynwch ni i weld sut mae ysgolion yn trawsnewid addysg.

LinkedInTwitterYouTubeFacebook